16 Hydref 2017

Text Box: Lesley Griffiths AC
 Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
 Llywodraeth Cymru

Annwyl Lesley,

Polisi Adnoddau Naturiol i Gymru

Cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig weithdy rhanddeiliaid ar 4 Hydref i drafod Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru.  Mae rhestr o'r rhai a oedd yn bresennol yn Atodiad 1. Roedd y sesiwn hon yn rhan o'n gwaith craffu dilynol ar Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ('y Ddeddf').

Mae'r Polisi Adnoddau Naturiol yn allbwn sylweddol sy'n deillio o'r Ddeddf a bwriedir iddo fod yn rhan allweddol o gyflwyno rheolaeth gynaliadwy adnoddau naturiol. O'r herwydd, roeddem yn credu ei bod hi'n bwysig clywed gan randdeiliaid yn gynnar, i geisio barn gychwynnol ar y polisi, llywio'r broses o weithredu ac awgrymu gwelliannau ar gyfer fersiwn nesaf y polisi.

Pwrpas ac alinio â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2015

Fe wnaethom geisio barn rhanddeiliaid ar y graddau y mae'r polisi yn alinio â'i bwrpas fel y nodir yn y Ddeddf. Yn gyffredinol, roedd rhanddeiliaid yn pryderu bod y Polisi Adnoddau Naturiol yn uchelgeisiol, gydag absenoldeb canlyniadau clir i sicrhau rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol. Mae diffyg eglurder ynghylch sut y bydd yr uchelgeisiau hynny yn cael eu trosi'n gamau gweithredu.        

Cred rhanddeiliaid y dylai fod mwy o eglurder yn y Polisi Adnoddau Naturiol ynghylch y cydbwysedd a ddymuna Llywodraeth Cymru rhwng ystyriaethau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol. Byddai hyn yn helpu ymarferwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau i weithredu'r Polisi Adnoddau Naturiol yn briodol.

1.           A wnewch chi gyhoeddi canllawiau ar y cydbwysedd rhwng yr ystyriaethau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol a ddylai fod yn sail i'r broses gwneud penderfyniadau a gweithredu? 

2.           Sut y byddwch chi'n mynd i'r afael â phryderon rhanddeiliaid ynghylch diffyg amcanion clir a chanlyniadau mesuradwy yn y Polisi Adnoddau Naturiol?

 Gweithredu'r Polisi Adnoddau Naturiol

Cred rhanddeiliaid y gellid cryfhau'r Polisi Adnoddau Naturiol trwy gynnwys set o fesurau a thargedau perfformiad cadarn. Roedd diffyg targedau a dangosyddion yn y fersiwn gyntaf hon o'r Polisi Adnoddau Naturiol yn gyfle a gollwyd. Dylai targedau gynnwys bioamrywiaeth, coedwigo, lleihau allyriadau ac ynni adnewyddadwy, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt. Byddai targedau o'r fath yn rhoi cyfeiriad clir i ymarferwyr sydd, yn anffodus, ar goll ar hyn o bryd.

O gofio'r diffyg manylion ynddo, pwysleisiodd rhanddeiliaid yr angen am drafodaeth bellach ac ymgysylltu ag ymarferwyr ynghylch gweithredu'r Polisi Adnoddau Naturiol.

Pwysleisiodd rhanddeiliaid yr angen i'r dull Datganiadau Ardal fod yn gadarn ac yn drylwyr er mwyn i'r Polisi Adnoddau Naturiol fod yn effeithiol. Mae'n hanfodol bod gan CCC, awdurdodau lleol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ddigon o adnoddau i weithredu Datganiadau Ardal mewn modd ystyrlon. Fel arall, efallai na fydd y Polisi Adnoddau Naturiol yn cael ei wireddu'n llawn.

Gwnaeth rhanddeiliaid sylwadau ar bwysigrwydd cydweithio i gyflwyno'r Polisi Adnoddau Naturiol. Fodd bynnag, roeddent yn pryderu nad yw'n ymddangos bod y Polisi Adnoddau Naturiol  yn hwyluso dull cydweithredol. Roedd y polisi yn gyfle a gollwyd i Lywodraeth Cymru ddangos arweinyddiaeth trwy wella cydweithio ar draws adrannau'r llywodraeth. Teimlwyd y byddai fframwaith yn ddefnyddiol i sicrhau dull cydgysylltiedig ac i sbarduno mwy o gydweithio.

At hynny, nid oedd rhanddeiliaid yn credu bod y Polisi Adnoddau Naturiol yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector. Yn wir, roeddent yn credu bod anghydbwysedd wrth wraidd y Polisi Adnoddau Naturiol, sef mai'r sector cyhoeddus y bydd disgwyl iddo gyflwyno'r Polisi Adnoddau Naturiol er bod 80% o'r tir yng Nghymru mewn perchnogaeth breifat. Yn amlwg, bydd gan hyn oblygiadau ar gyfer y canlyniadau y gellir eu cyflawni gan y Polisi Adnoddau Naturiol.

3.           A wnewch chi egluro sut rydych chi'n disgwyl i Ddatganiadau Ardal gyflwyno'r Polisi Adnoddau Naturiol yn ymarferol? A wnewch chi baratoi a chyhoeddi canllawiau ar gyfer CCC yn nodi sut rydych chi'n disgwyl i'r Polisi Adnoddau Naturiol lywio datblygiad Datganiadau Ardal?

4.           Sut fyddwch chi'n cefnogi ac yn hwyluso gweithio ar y cyd ac mewn partneriaeth i sicrhau bod y Polisi Adnoddau Naturiol yn cael ei gyflwyno?  

5.           A allwch chi roi manylion i'r Pwyllgor cyn gynted â phosibl am y mesurau a'r dangosyddion y byddwch yn eu defnyddio yn fframwaith gwerthuso'r Polisi Adnoddau Naturiol? A wnewch chi ymgynghori â rhanddeiliaid ar y fframwaith gwerthuso? Pryd fydd y fframwaith gwerthuso yn cael ei gyhoeddi?


Alinio â pholisïau domestig a rhyngwladol
Cododd rhanddeiliaid nifer o faterion yn ymwneud â diffyg eglurder canfyddedig ynghylch sut mae'r Polisi Adnoddau Naturiol, polisïau eraill neu ddeddfwriaeth Gymreig sy'n ymwneud ag adnoddau naturiol yn cyd-fynd â'i gilydd. Cyfeiriwyd at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), y Cynllun Adfer Natur,  Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, Symud Cymru Ymlaen, a mecanweithiau cynllunio fel y rhai ym Mholisi Cynllunio Cymru.

Roeddent o'r farn bod angen fframwaith clir, wedi'i gyhoeddi, i egluro sut mae'r polisïau hyn yn integreiddio gyda'r Polisi Adnoddau Naturiol ac i nodi statws y Polisi Adnoddau Naturiol o fewn y fframwaith hwnnw. At hynny, mae angen eglurder ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dod â'r holl bolisïau hyn at ei gilydd i sbarduno cynnydd yn y maes hwn. Yn benodol, dylai Llywodraeth Cymru egluro sut y mae'n sicrhau bod cydbwysedd yn ei phrosesau gwneud penderfyniadau rhwng datblygu economaidd ac adfer natur.  

Nid oedd rhanddeiliaid yn credu bod aliniad clir rhwng y Polisi Adnoddau Naturiol a'r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). At hynny, dylai asesiad cyflawn o'r defnydd o adnoddau naturiol yng Nghymru gynnwys y defnydd o adnoddau a ddarperir gan ecosystemau mewn mannau eraill. Bydd angen ystyried ôl troed byd-eang Cymru i asesu cynnydd tuag at y nod Llesiant; 'Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang.'

Amlygodd rhanddeiliaid hefyd effaith bosibl rheoliadau cynllunio wrth gyflwyno newidiadau sy'n effeithio ar yr amgylchedd naturiol.

O ran polisïau rhyngwladol, awgrymwyd y dylai nodau'r Polisi Adnoddau Naturiol gael eu mapio yn erbyn targedau byd-eang megis y Nodau Datblygu Cynaliadwy. Byddai hyn yn galluogi asesiad o gyfraniad y Polisi Adnoddau Naturiol i dargedau byd-eang. Mae'r Polisi Adnoddau Naturiol yn mynd i'r afael â thargedau Strategaeth Bioamrywiaeth yr UE (EUBS) mewn sawl ffordd. Mae'n cydnabod pwysigrwydd safleoedd a ddiogelir (yn ddaearol a morol) i wella cadernid ecosystemau. Mae hyn yn alinio â Tharged 1 yr EUBS. Mae seilwaith gwyrdd, gwasanaethau ecosystem ac adfer cynefinoedd yn alinio â Tharged 2 yr EUBS. Mae cyfeiriadau yn y Polisi Adnoddau Naturiol at ddiogelu ansawdd pridd yn cysylltu â Tharged 3 yr EUBS i gynyddu cyfraniad amaethyddiaeth a choedwigaeth i gynnal a gwella bioamrywiaeth. Yn olaf, er na ellir dadlau bod cysylltiad mor gryf â'r rhai a grybwyllwyd eisoes, mae Targed 6 yr EUBS - colli bioamrywiaeth yn fyd-eang - yn cysylltu â'r Polisi Adnoddau Naturiol trwy effeithlonrwydd adnoddau a newid hinsawdd.

Mewn perthynas â dyfodol polisïau rheoli adnoddau naturiol, cydnabu rhanddeiliaid fod rhywfaint o ansicrwydd yn deillio o'r penderfyniad i adael yr UE. Mae maint y goblygiadau ar gyfer polisïau presennol a gwneud polisïau yn y dyfodol yng Nghymru ar hyn o bryd yn aneglur. Fodd bynnag, credai rhanddeiliaid y dylai Llywodraeth Cymru achub ar y cyfle hwn i nodi ei gweledigaeth ar gyfer y dyfodol ac i egluro beth yw ei blaenoriaethau yn y maes polisi hwn ar ôl i'r DU adael yr UE.

6.           Sut mae polisïau rhyngwladol a thargedau byd-eang wedi llywio datblygiad y Polisi Adnoddau Naturiol? A wnewch chi ystyried sut y gall y dangosyddion a'r targedau yn fframwaith gwerthuso'r Polisi Adnoddau Naturiol weithio ochr yn ochr â thargedau rhyngwladol?

7.           Sut y byddwch yn mynd i'r afael â'r alwad gan randdeiliaid i Lywodraeth Cymru osod gweledigaeth glir ar gyfer cyfeiriad polisi yn y dyfodol ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac egluro ei blaenoriaethau ar ôl Brexit? 

8.           Sut mae'r Polisi Adnoddau Naturiol yn cyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?

9.           A ydych chi'n bwriadu diwygio Polisi Cynllunio Cymru yng ngoleuni'r Polisi Adnoddau Naturiol?


Defnyddio tystiolaeth
Mynegodd rhanddeiliaid bryder yr ymddengys bod datgysylltiad rhwng y Polisi Adnoddau Naturiol a'r SoNaRR. Er enghraifft, nid yw'n mynd i'r afael â methiannau o ran rheoli adnoddau a nodwyd yn SoNaRR. Awgrymwyd y dylai pob Pennod gynnwys cyfeiriadau at y canfyddiadau SoNaRR perthnasol, i egluro sut y maent wedi llywio adrannau penodol o'r Polisi Adnoddau Naturiol.

Tynnwyd sylw at ddiffygion data yn SoNaRR fel achos pryder a phwysleisiodd rhanddeiliaid yr angen i lenwi bylchau er mwyn gwella datblygiad polisi yn y dyfodol.

10.        Sut y byddwch yn mynd i'r afael â'r sylwadau gan randdeiliaid ynghylch yr angen i'r Polisi Adnoddau Naturiol ddangos yn gliriach sut y mae data SoNaRR wedi ei lywio? 

 

11.        Sut ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â'r diffygion yn y data yn SoNaRR?



 

Amserlenni ac ymgysylltu

Cafwyd sylwadau gan randdeiliaid ar y broses ymgynghori a oedd yn sail i ddatblygiad y Polisi Adnoddau Naturiol. Roedd pryder nad oedd drafft terfynol o'r Polisi Adnoddau Naturiol wedi cael ei weld gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus cyn ei gyhoeddi, o gofio bod eu cyfraniad yn hollbwysig i'w gyflawni. Roedd hyn yn achosi pryder pellach i rai am y graddau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithio gyda llywodraeth leol wrth weithredu'r Polisi Adnoddau Naturiol. Mynegodd rhanddeiliaid eraill siom nad oeddent wedi ymgynghori â nhw ar ddrafft o'r Polisi Adnoddau Naturiol.

Roedd rhanddeiliaid hefyd yn pryderu y bydd SoNaRR, y brif sylfaen dystiolaeth ar gyfer y Polisi Adnoddau Naturiol, yn cael ei baratoi bob pum mlynedd. Mae yna risgiau y bydd diffyg tystiolaeth gyfredol yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn llai tebygol o allu ymateb yn gyflym i risgiau i gyflwr adnoddau naturiol, os bydd angen gwneud hynny.

12.        Beth yw eich cynlluniau ar gyfer adolygu a diwygio'r Polisi Adnoddau Naturiol?

13.        A allwch nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wrth weithredu'r Polisi Adnoddau Naturiol?

14.        A oes gennych unrhyw gynlluniau i asesu priodoldeb amseriad ac amlder SoNaRR?

 

Diolch am ystyried y materion hyn. Mae'r Polisi Adnoddau Naturiol yn cynnig cyfle i Gymru fod yn arweinydd o ran rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ond dim ond os yw'r rhai sy'n gyfrifol am ei gyflawni yn glir ar eu rolau a'u hamcanion a'u bod yn cael digon o adnoddau ar gyfer y diben hwnnw; a bod cynnydd yn cael ei fesur yn briodol ar bob cam.

 

 

 

Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ymateb i'r Pwyllgor erbyn 1 Rhagfyr 2017.

Yn gywir

 

Mike Hedges AM
Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig